Caneuon Nadolig 2023 / 2023 Christmas Songs
Dyma ni'n mynd i Fethlehem
Dyma ni’n mynd i Fethlehem,
I Fethlehem, I Fethlehem,
Dyma ni’n mynd i Fethlehem,
Ar fore dydd Nadolig.
Beth welwn ni ym Methlehem?
Ym Methlehem, Ym Methlehem,
Beth welwn ni ym Methlehem?
Ar fore dydd Nadolig.
Mae’r Baban yn cysgu ym Methlehem,
Ym Methlehem, Ym Methlehem,
Mae’r Baban yn cysgu ym Methlehem,
Ar fore dydd Nadolig.
2. Mae'r clychau bach yn canu
Mae’r clychau bach yn canu ding, ding, ding, ding, dong,
Draw ym Methlehem Jwda ding, ding, ding, ding, dong,
Ding, dong, ding, dong,
Mae’r clychau bach yn canu ding, ding, ding, ding, dong.
(x2)
3. Rwdolff y Carw Trwyn-goch
Rwdolff y carw trwyn-goch,
Yn gweithio’n galed drwy y nos.
Rwdolff y carw trwyn-goch,
Yn hoffi helpu Santa Clos.
Rwdolff y carw trwyn-goch,
Yn gweithio’n galed drwy y nos.
Rwdolff y carw trwyn-goch,
Yn hoffi helpu Santa Clos.
Yna fe ddaeth Santa Clos
I ofyn cwestiwn mawr.
“Rwdolff wnei di helpu fi..
Teithio’n bell ar draws y byd?”
Rwdolff y carw trwyn-goch,
Yn gweithio’n galed drwy y nos.
Rwdolff y carw trwyn-goch,
Yn hoffi helpu Santa Clos.
4. “Twît, twît, twit” meddai’r robin
“Twît, twît, twît” meddai’r robin,
“Me, me, me” meddai’r oen,
“Mw, mw, mw” meddai’r hen fuwch frown,
Yn y stabal ym Methlehem.
“Beth yw hwn?” meddai’r robin,
“Wn i ddim,” meddai’r oen.
“Baban bach” meddai’r hen fuwch frown,
Yn y stabal ym Methlehem.
“Twît, twît, twît” meddai’r robin,
“Me, me, me” meddai’r oen,
“Mw, mw, mw” meddai’r hen fuwch frown,
Yn y stabal ym Methlehem.
5. Sêr y Nos yn Gwenu
Sêr y nos yn gwenu,
Clychau llon yn canu,
Dewch i breseb Bethlehem i weld y baban Iesu,
Dewch i breseb Bethlehem i weld y baban Iesu.
(x2)
6. Ffonio Santa
Ffonio Santa, ffonio Santa,
Sut wyt ti? Sut wyt ti?
Cofiwch alw yma! Cofiwch alw yma!
Yn y tŷ. Yn y tŷ.
Gwneud y pwdin, gwneud y pwdin,
Pwdin mawr, pwdin mawr,
Cwrens, blawd, swltanas. Cwrens, blawd, swltanas,
Troi, troi troi. Troi, troi, troi.
Tynnu’r cracer, Tynnu’r cracer,
Un, dau, tri. Un, dau, tri.
Tynnu am y gorau, tynnu am y gorau.
Bang, bang, bang! Bang, bang, bang!
7. Pwy sy'n dwad dros y bryn?
Pwy sy'n dwad dros y bryn,
yn ddistaw, ddistaw bach?
Ei farf yn llais, a'i wallt yn wyn,
â rhywbeth yn ei sach.
A phwy sy'n eistedd ar y tô,
ar bwys y simne fawr?
Siôn Corn, Siôn Corn.
Helo, helo.
Tyrd yma, tyrd i lawr.
8. Ting a ling a ling
Ting a ling a ling, ting a ling a ling,
Clychau Santa Clos,
Ting a ling a ling, ting a ling a ling,
Yn canu yn y nos.
Wwww!
Ting a ling a ling, ting a ling a ling,
Clychau Santa Clos,
Ting a ling a ling, ting a ling a ling,
Yn canu yn y nos.
(x2)
9. Dymunwn Nadolig Llawen
Dymunwn Nadolig Llawen,
Dymunwn Nadolig Llawen,
Dymunwn Nadolig Llawen,
A blwyddyn newydd dda.
Dymunwn i chi a phawb yn y ty
Dymunwn Nadolig Llawen,
A blwyddyn newydd dda.
(x2)